Luke 15

Stori am ddafad aeth ar goll

(Mathew 18:12-14)

1Roedd y dynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill oedd yn cael eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn casglu o gwmpas Iesu i wrando arno. 2Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn cwyno a mwmblan, “Mae'r dyn yma'n rhoi croeso i bobl sy'n ‛bechaduriaid‛! Mae hyd yn oed yn bwyta gyda nhw!”

3Felly dyma Iesu'n dweud y stori yma wrthyn nhw: 4“Dychmygwch fod gan un ohonoch chi gant o ddefaid, a bod un ohonyn nhw wedi mynd ar goll. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y tir agored ac yn mynd i chwilio am y ddafad aeth ar goll nes dod o hyd iddi? 5A phan mae'n dod o hyd iddi mae mor llawen! Mae'n ei chodi ar ei ysgwyddau 6ac yn mynd adre. Wedyn mae'n galw ei ffrindiau a'i gymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r ddafad oedd wedi mynd ar goll.’ 7Wir i chi, dyna sut mae hi yn y nefoedd – mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw nag am naw deg naw o bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn a dim angen newid!

Stori'r darn arian oedd ar goll

8“Neu petai gan ryw wraig ddeg darn arian, ac yn colli un ohonyn nhw. Byddai hi'n cynnau lamp ac yn mynd ati i lanhau'r tŷ i gyd, a chwilio ym mhob twll a chornel am y darn arian nes iddi ddod o hyd iddo. 9Pan mae'n dod o hyd iddo, mae'n galw ei ffrindiau a'i chymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r darn arian oedd wedi mynd ar goll.’ 10Wir i chi, dyna sut mae Duw yn dathlu o flaen ei angylion pan mae un pechadur yn troi ato!”

Stori'r mab wnaeth wrthryfela

11Aeth Iesu yn ei flaen i ddweud stori arall: “Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo. 12Dyma'r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o'r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma'r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab.

13“Yn fuan wedyn, dyma'r mab ifancaf yn gwerthu'r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt. 14Ar ôl iddo golli'r cwbl bu newyn difrifol drwy'r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu. 15Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i'r caeau i ofalu am foch. 16Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o'r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo.

17“Calliodd o'r diwedd, ac meddai ‘Beth dw i'n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd. 18Af i adre at dad, a dweud wrtho: Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. 19Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw'n fab i ti ddim mwy. Gad i mi fod yn un o'r gweithwyr sy'n cael eu cyflogi gen ti.’ 20Felly i ffwrdd ag e yn ôl adre.

“Gwelodd ei dad e'n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a'i gofleidio a'i gusanu.

21“A dyma'r mab yn dweud wrtho, ‘Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw'n fab i ti ddim mwy.’ 22Meddai'r tad wrth y gweision, ‘Brysiwch! Ewch i nôl mantell iddo ei gwisgo – yr un orau! Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau ar ei draed. 23Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti! 24Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau.

25“Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio. 26Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd. 27‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi i ddathlu ei fod wedi ei gael yn ôl yn saff.’

28“Ond dyma'r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma'i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn. 29Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau! 30Ond dyma hwn yn dod adre – y mab yma sydd gen ti – yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae'n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi ei besgi i hwn!’

31“‘Machgen i,’ meddai'r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl. 32Ond roedd rhaid i ni ddathlu – roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl!’”

Copyright information for CYM